nicdafis

1 photo


Entries

nicdafis
Pontgarreg

ABC Glasgow

Not worth visiting!

Lle da i weld band

Gwelais i Van der Graaf Generator yma ar 12/11/05. Lot o hwyl, staff cyfeillgar ar y bar, cei di smygu ynddo (ar hyn o bryd).


nicdafis
Pontgarreg

Poacher's Pocket

Not worth visiting!

Dim lot o gymeriad

Dw i ddim yn cofio lot am y lle, gan fy mod i braidd yn feddw erbyn i mi gyrraedd. Dim ond peint o Guinness ces i. O leia doedd hi ddim yn sgeri, fel y dafarn arall es i iddi hi yn Swalwell.


nicdafis
Pontgarreg

Highlander Hotel

Not worth visiting!

Bach yn ryff

Dim ond peint ces i ‘ma, gan fod y lle bach yn codi ofn arna i, bachgen swil o gefn gwlad Cymru.

Dim Guinness yn y pyb!


nicdafis
Pontgarreg

Swalwell

Not worth visiting!

Ddim yn deg barnu...

Dim ond un noson bues i yn y lle, ar ôl gweld Van der Graaf yn Gateshead. Oedd hi’n oer ofnadwy. Oedd y bobl cwrddais i â nhw yn gyfeillgar iawn, yn enwedig y ferch yn y gwely a brecwast, a’r fenyw oedd yn gyrru y tacsi a aeth â fi i’r dre.


nicdafis
Pontgarreg

The Sage Auditorium

Worth visiting!

Van der Graaf Generator

Gwelais i Van der Graaf yma ar 11/11/05. Mae’r lle yn ffantastig, ond yn anffodus doedd e ddim yn llawn iawn, ac ro’n i’n eistedd ar gefn y bobl oedd yna. Ddim y gig gorau erioed i mi felly, ond oedd y perfformiad yn wych.


nicdafis
Pontgarreg

Coleg Trefeca

Worth visiting!

Amgueddfa Howell Harris Museum

Coleg Trefeca oedd yn gartre i “Deula Trefeca”, y gymuned Iwtopiaidd sefydlwyd gan http://www.revival-library.org/catalogues/world1/bennettr/title.htm">Howell Harris, un o dadau diwygiad y Methodistiaid. Mae’r Coleg ar y chwith wrth ddod i mewn i’r pentre o Dalgarth, ond does dim sôn am amgueddfa o gwbl. ‘Sen i wedi bod wrth fy hunan, fyddwn i ddim bod wedi ei weld, ond diolch i’m partner annwyl, menyw ddewr sy’n barod i gnocio ar ddrysau, llwyddon ni fynd i mewn i’r Coleg ac i’r amgueddfa.

Amgueddfa bach iawn yw e, dim ond un stafell fach, ond mae’n werth ymweld â fe, yn enwedig os oes diddordeb ‘da chi mewn hanes y diwygiad, neu mewn hanes cymunedau Iwtopiaidd.

A tiny museum, and well hidden. Find the College on the left, entering the village from Talgarth. We had to knock on the door to gain entry. Well worth the trouble, especially if you’re interested in the history of the Methodist revival in Wales, or in Utopian communities, of which this was an early example.


nicdafis
Pontgarreg

Y Strand

Not worth visiting!

Caffi/Siop Lyfrau - Bookshop/Cafe

Ddim wedi bod ‘ma ers sbel, ond cofiaf brynu cwpl o lyfrau diddorol iawn y tro diwetha. Mae lot o hipis yn byw yn y ardal, sy’n wneud unrhyw siop lyfrau werth ymweld â hi. ;-)

A bookshop/cafe with an interesting selection of books, the last time I was there.


nicdafis
Pontgarreg

Talgarth

Worth visiting!

Tre fach ddiddorol

Oedd y siop lyfrau ar gau yn anffodus. Paid ymweld â Talgarth cyn 10.30 y bore.


nicdafis
Pontgarreg

Boar's Head

Worth visiting!

Cwrw ffein

Tafarn o ddau hanner yw’r Boar’s Head. Bar traddodiadol un ochr, dynion i gyd (ond am fy mhartner druan) y noson buon ni ‘na, a stafell fawr ochr draw llawn pobl ifainc, bwrdd pŵl, sgrechflwch uchel ayyb.

Cwrw braf iawn gan Fragdy Brycheiniog.


nicdafis
Pontgarreg

Beacons Guesthouse

Worth visiting!

Lle neis i aros

Gwely a brecwast mewn hen dŷ ffarm, ddim yn bell o ganol y dre. Bach yn gostus, Saesneg iawn, brecwast gwych.